Skip to main content
Timber 101: Sylfeini Manylebu Pren a’r Arferion Gorau

Timber 101: Sylfeini Manylebu Pren a’r Arferion Gorau

Ask AI: is it for me?

Similar events

View all

About This Event

Timber 101: Sylfeini Manylebu Pren a’r Arferion Gorau will be held on 20 January 2027 at 22 Cathedral Road in Pontcanna. The event will provide practical information about wood for real-life projects.

Gwybodaeth ymarferol, glir am bren ar gyfer prosiectau go iawn

Cael dealltwriaeth ymarferol, glir ynglŷn â sut mae pren yn ymddwyn, sut y dylid ei fanylebu, a sut i wneud penderfyniadau hyderus ar brosiectau go iawn. Mae’r cwrs undydd, wyneb-yn-wyneb, penodol hwn yn cyflwyno egwyddorion creiddiol dewis rhywogaethau, dosbarthiadau cryfder, gwydnwch, ymddygiad lleithder a dosbarthiadau gwasanaeth—gan roi i’r rhai sy’n bresennol yr wybodaeth sydd ei hangen er mwyn osgoi camgymeriadau cyffredin a gwella ansawdd adeiladu.

Mae Timber 101 wedi’i gynllunio ar gyfer dylunwyr, contractwyr, syrfëwyr, coedwigwyr ac unrhyw un sy’n gweithio gyda phren ym maes adeiladu, ac mae’n cyfuno mewnwelediad technegol â chanllawiau hygyrch, sy’n seiliedig ar y byd go iawn.

Rydym yn eich arfogi â’r wybodaeth arbenigol i fanylebu pren a chynnyrch pren yn hyderus — er mwyn i chi allu sicrhau perfformiad rhagorol, cadw eich enw da, a rhoi canlyniad i’ch cleientiaid a’ch cwsmeriaid y byddant yn ymddiried ynddo am flynyddoedd.

Darperir y sesiwn gan arbenigwyr o Filros Timber (https://www.filros.co.uk/) sydd â gwybodaeth arbenigol am briodweddau, manylebu a pherfformiad pren mewn ystod eang o gymwysiadau, ac mae’n darparu sylfaen gadarn ar gyfer defnydd cyfrifol a deallus o bren mewn prosiectau adeiladu modern amrywiol.

Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer y rhai sy’n manylebu, dewis, gwerthu/cyflenwi, archwilio neu weithio gyda phren ym maes adeiladu, gan gynnwys:Walk away with the skills to specify timber right, first time.

Penseiri, dylunwyr a pheirianwyr sy’n gyfrifol am fanylebu cynnyrch pren a sicrhau cydymffurfiad

Contractwyr, rheolwyr safle a gosodwyr sy’n gweithio gyda phren ar brosiectau byw ac sy’n ceisio lleihau camgymeriadau ar safle

Syrfëwyr, gweithwyr proffesiynol ym maes rheoli adeiladu ac archwilwyr sy’n asesu cyflwr ac addasrwydd pren a defnydd cywir ohono

Cleientiaid, rheolwyr prosiectau ac arweinwyr cynaliadwyedd sy’n ceisio gwneud penderfyniadau mwy deallus ynglŷn â phren

Y rhai sy’n cyflenwi/gwerthu pren/cynnyrch pren er mwyn cefnogi’r rhai sy’n prynu deunyddiau ar gyfer prosiectau

Coedwigwyr sy’n ceisio deall pwysigrwydd priodweddau pren mewn defnydd terfynol

Byddwch yn cael y sgiliau i fanylebu pren yn gywir, y tro cyntaf.

Lleoliad 3

Woodknowledge Wales, 22 Ffordd yr Eglwys Gadeiriol, Pontcanna, Caerdydd CF11 9LJ

Dyddiad: 20 Ionawr 2027: 0930-1600

Cost: Am ddim. Mae'r digwyddiad hwn wedi'i ariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Liz Walder yn Woodknowledge Wales: liz.walder@woodknowledgewales.co.uk

Siaradwyr: Phil O’Leary a Dr Andy Pitman, Filros Timber Consultancy

Mae Phil yn Gyfarwyddwr cwmni Filros Timber Consultancy sy’n darparu gwasanaeth ymgynghori annibynnol arbenigol yn y sector pren. Cyn hyn roedd yn bennaeth Ymgynghoriaeth Pren yn BM TRADA, yr awdurdod technegol sydd y tu ôl i TRADA. Mae gan Phil dros 30 mlynedd o brofiad ôl-gymhwyso yn gweithio gyda phren ym meysydd dylunio, manylebu, graddio strwythurol a pherfformiad pren wrth iddo gael ei ddefnyddio, ac mae wedi cyhoeddi erthyglau am wyddor pren mewn cylchgronau lleol a rhyngwladol.

Mae cefndir Phil yn cyfuno arbenigedd gwyddor pren ffurfiol, degawdau o brofiad ymarferol mewn diwydiant, arweinyddiaeth mewn safonau a sefydliadau, ac mae’n arbenigo mewn:

arolygon o gyflwr adeiladau hanesyddol, asesiadau perfformiad a phennu cryfder strwythurol pren mewn llawer o sefyllfaoedd

ansawdd pren, nodweddion perfformiad, dirywiad a chadwraeth

gwasanaethu fel tyst arbenigol wrth geisio canfod achosion methiant pren

datblygu a chyflwyno cyrsiau hyfforddiant amserol a phwrpasol, sy’n uchel eu parch, ar bynciau amrywiol sy’n gysylltiedig â phren.

Phil yw cadeirydd Pwyllgor Cadwraeth Pren y BSI ac mae’n aelod o Bwyllgor Materion Technegol, Amgylcheddol a Rheoleiddiol y Gymdeithas Gwarchod Pren. Ef hefyd yw Cadeirydd Bwrdd Woodknowledge Wales.

Mae Andy Pitman yn wyddonydd pren sy’n arbenigo mewn deall perfformiad pren wrth iddo gael ei ddefnyddio. Mae ganddo gymhwyster Meistr mewn Technoleg Diwydiannau Coedwigoedd a chwblhaodd ei PhD gydag Ymddiriedolaeth y Mary Rose yn ymchwilio i gadwraeth pren archaeolegol.

Mae Andy yn Gymrawd o’r IOM3, ac yn gyn Gadeirydd y Gymdeithas Technoleg Pren. Bu’n gweithio gyda BM TRADA ym maes ymchwil, datblygu a phrofi cynnyrch pren, gan gynnwys pren wedi’i addasu, ac ef yw awdur Taflen Wybodaeth am Bren TRADA, Modified Wood. Mae’n aelod o Bwyllgor Technegol y Gymdeithas Gwarchod Pren ac roedd yn aelod o Bwyllgor Safonau Prydain yn ymdrin â safonau Prydeinig ac Ewropeaidd sy’n ymwneud â gwarchod pren.

Mae Andy wedi gweithio ar draws y gadwyn gyflenwi, gan ddarparu hyfforddiant DPP i benseiri a pheirianwyr ar ran yr RIBA, Wood for Good a TRADA. Cyn gweithio gyda Filros Timber Consultancy, treuliodd bedair blynedd yn gweithio ym maes ymchwil a datblygu ar gyfer egin fusnes LIGNIA, gan datblygu pren addasedig wedi’i drin â resin. Yn sgil hyn cafodd brofiad o weithio gyda lamineiddw

Description supplied by the event organiser.

Staying overnight?

Hotels within walking distance of 22 Cathedral Rd.

Searching near 22 Cathedral Road, Pontcanna, CF11 9LJ
Check-in: Wednesday, 20 January 2027
Find hotels near this venuecompare prices →

Ad · Stay22 affiliate link

Similar Events in Cardiff

View all →

More at 22 Cathedral Rd

View all →

Frequently asked questions

Timber 101: Sylfeini Manylebu Pren a’r Arferion Gorau takes place on Wednesday, 20 January 2027 at 09:30.

Timber 101: Sylfeini Manylebu Pren a’r Arferion Gorau is held at 22 Cathedral Rd in Cardiff (22 Cathedral Road, Pontcanna, CF11 9LJ).

Entry to Timber 101: Sylfeini Manylebu Pren a’r Arferion Gorau is free.

Yes — hotels within walking distance of 22 Cathedral Rd can be compared using the accommodation search further down this page.

Tickets for Timber 101: Sylfeini Manylebu Pren a’r Arferion Gorau can be booked via Eventbrite using the "Check Tickets & Live Prices" button on this page, which opens the official booking site in a new tab.

Price

Free Entry

Get Tickets