Skip to main content
Gweithdy Cyllid i Fusnesau Newydd | Start-Up Finance Workshop

Gweithdy Cyllid i Fusnesau Newydd | Start-Up Finance Workshop

Ask AI: is it for me?

Similar events

View all

About This Event

A Practical Start-Up Finance Workshop will be held on 24 February 2027 at Canolfan Gwili Centre in Hendy. This workshop is designed for individuals considering starting a business as sole traders or those in the early stages of their business journey. Participants will receive practical guidance on managing the financial aspects of self-employment.

Gweithdy Cyllid Ymarferol i Fusnesau Newydd | Practical Start-Up Finance Workshop

Hanfodion Busnes i Unig Fasnachwr

Mae'r gweithdy hwn wedi'i gynllunio ar gyfer unigolion sy'n ystyried sefydlu busnes fel unig fasnachwr, neu sydd yng nghamau cynnar eu taith fusnes, ac a fyddai'n elwa ar gymorth ymarferol i ddeall a rheoli ochr ariannol hunangyflogaeth.

Bydd y gweithdy yn canolbwyntio ar droi'r hyn sy'n aml yn gallu teimlo fel rhan lethol o ddechrau busnes yn gamau clir, ymarferol a haws.

Cynnwys y Gweithdy

Bydd y gweithdy yn cael ei ddatblygu a'i gyflwyno'n benodol ar gyfer unigolion sy'n dechrau neu'n datblygu busnes fel unig fasnachwr a bydd yn cynnwys:

• Deall y prif rwymedigaethau ariannol a'r rhai o ran cadw cofnodion allweddol wrth ddod yn hunangyflogedig

• Canllawiau ymarferol ar sefydlu prosesau ariannol da o'r cychwyn cyntaf

• Gwahanol ddulliau o gadw cyfrifon a chadw cofnodion

• Trosolwg o'r feddalwedd cadw cyfrifon sydd ar gael, gan gynnwys manteision ac anfanteision y gwahanol opsiynau

• Dulliau ymarferol ar gyfer cofnodi gwerthiannau ac incwm busnes

• Sut i gofnodi, trefnu a chadw tystiolaeth o dreuliau busnes

• Deall y mathau o gostau y gall unig fasnachwr eu hawlio a'r rhai na ellir eu hawlio

• Systemau syml ar gyfer rheoli derbynebau, anfonebau a chofnodion busnes

• Camgymeriadau ariannol cyffredin sy'n cael eu gwneud wrth ddechrau busnes a sut i'w hosgoi

• Ystyriaethau wrth i brosiect pres poced ddatblygu'n fusnes mwy sefydledig

• Trafodaeth ryngweithiol a chyfle i'r cyfranogwyr roi'r wybodaeth ar waith yn eu busnesau eu hunain

• Bydd adnoddau ategol yn cael eu paratoi i gyfranogwyr fynd â nhw o'r gweithdy, gan roi gwybodaeth ymarferol y gallant gyfeirio ati wrth iddynt sefydlu eu prosesau ariannol.

Cyflwyno i Grŵp Bach Rhyngweithiol

Mae'r gweithdy wedi'i gynllunio'n fwriadol ar gyfer grŵp bach o hyd at chwe chyfranogwr.

Yn hytrach na chyflwyno gwybodaeth gyffredinol ar ffurf cyflwyniad, mae'r grŵp llai yn galluogi'r gweithdy i fod yn rhyngweithiol ac yn ymatebol i'r busnesau sy'n cael eu cynrychioli.

Bydd cyfranogwyr yn cael eu hannog i drafod eu sefyllfa bresennol ar eu taith fusnes, y systemau y maent yn eu hystyried neu eisoes yn eu defnyddio, a'r meysydd lle maent yn brin o hyder.

Mae hyn yn rhoi cyfle i gyfranogwyr gael canllawiau mwy ymarferol a phwrpasol mewn amgylchedd grŵp, heb y gost sylweddol uwch o ddarparu cymorth unigol un-i-un i bob cyfranogwr.

Profiad ymarferol, uniongyrchol

Ochr yn ochr â fy mhrofiad proffesiynol yn cefnogi unig fasnachwyr gyda'u gwaith cadw cyfrifon a'u prosesau ariannol, rwyf hefyd wedi bod trwy'r broses o sefydlu a datblygu fy musnes fy hun yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi bod yn rhan o'r daith honno drwy'r cyllid, y cyrsiau a'r cymorth busnes yr wyf wedi'u cael.

Felly, mae'r gweithdy arfaethedig wedi'i ddatblygu nid yn unig ar sail y cwestiynau a gaf yn rheolaidd gan gleientiaid, ond hefyd ar sail y meysydd lle credaf y byddai canllawiau ariannol ymarferol ychwanegol wedi bod o werth i mi pan ddechreuais fod yn hunangyflogedig.

Fy nod yw i'r cyfranogwyr adael y gweithdy gyda gwell dealltwriaeth o'u cyfrifoldebau, y systemau ymarferol y gallant eu rhoi ar waith ar unwaith, ac, yn bwysicaf oll, syniad clir o'r camau nesaf y mae angen iddynt eu cymryd.

Fydd y gweithdy yma yn cael ei gyflwyno yn Saesneg. Os hoffech chi cyfieithiad Cymraeg, cysylltwch gyda ymgysylltubusnes@sirgar.gov.uk

Mae'r digwyddiad hwn wedi'i drefnu gan Gyngor Sir Caerfyrddin, a ariennir drwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin drwy Lywodraeth y DU

Sole Trader Essentials

This workshop is designed for individuals who are considering setting up as a sole trader, or are in the early stages of their business journey, and would benefit from practical support in understanding and managing the financial side of self-employment.

The focus will be on taking what can often feel like an overwhelming area of starting a business and turning it into clear, practical and manageable steps.

Workshop Content

· The workshop will be developed and delivered specifically for individuals starting or developing a soletrader business and will include:

· Understanding the key financial and record-keeping obligations of becoming self-employed

· Practical guidance on setting up good financial processes from the outset

· Different approaches to bookkeeping and record keeping

· An overview of bookkeeping software available, including the advantages and disadvantages of

· different options

· Practical methods for recording sales and business income

· How to record, organise and retain evidence of business expenses

· Understanding the types of costs that can and cannot generally be claimed by a sole trader

· Simple systems for managing receipts, invoices and business records

· Common financial mistakes made when starting out and how these can be avoided

· Considerations as a side hustle develops into a more established business

· Interactive discussion and the opportunity to apply the inform

Description supplied by the event organiser.

Staying overnight?

Hotels within walking distance of Canolfan Gwili Centre.

Searching near Bryngwili Road, Hendy, SA4 0XB
Check-in: Wednesday, 24 February 2027
Find hotels near this venuecompare prices →

Ad · Stay22 affiliate link

Similar Events in Swansea

View all →

More at Canolfan Gwili Centre

View all →

Frequently asked questions

Gweithdy Cyllid i Fusnesau Newydd | Start-Up Finance Workshop takes place on Wednesday, 24 February 2027 at 10:00.

Gweithdy Cyllid i Fusnesau Newydd | Start-Up Finance Workshop is held at Canolfan Gwili Centre in Swansea (Bryngwili Road, Hendy, SA4 0XB).

Entry to Gweithdy Cyllid i Fusnesau Newydd | Start-Up Finance Workshop is free.

Yes — hotels within walking distance of Canolfan Gwili Centre can be compared using the accommodation search further down this page.

Tickets for Gweithdy Cyllid i Fusnesau Newydd | Start-Up Finance Workshop can be booked via Eventbrite using the "Check Tickets & Live Prices" button on this page, which opens the official booking site in a new tab.

Price

Free Entry

Get Tickets